Hud sy’n rhoi gwÊn yn eich calon.
“Roedd hwnna’n ffantastig”

CHWERTHIN A HWYL MEWN GWAHANOL YSGOLION

Sioe rithiol berffaith

Does dim dwywaith bod plant yn caru’r sgrin.
Beth am fanteisio ar hyn? Yn hytrach na gwadu rhywbeth maent yn teimlo’n gyfforddus ag ef, cofleidio’r cyfle yma i gysylltu â nhw.
Trwy ddefnyddio cyfrwng y maent yn teimlo’n gartrefol ag ef, gellir meithrin eu hyder i ddechrau cysylltu â’i gilydd a gwneud hynny mewn amgylchedd diogel ac ysgogol.




Nid yn unig y gwrandewir arnynt, maent hefyd yn gwybod eu bod yn cael eu clywed.
Trwy eu gwahodd i amgylchedd diogel, maent yn teimlo’n gartrefol ac o’r herwydd, yn medru cael y profiad gorau posibl.

“Mae Kariad wedi gwenud imi deimlo’n bwysig.”
Disgybl Ysgol Edern
“Mae’r hud a lledrith yn anhygoel!”
CIPOLWG AR YR HYN A GEWCH MEWN SESIWN EFO FI

- Hud
- Hunan Hyder
- Rhithiol
- Rhyngweithiol
Sioe sy’n canolbwyntio ar y plant ac yn rhoi hwb i’w hyder. Nid yn unig y mae’r plant yn chwerthin ac yn gwenu’n braf, maent hefyd yn darganfod y gall eu hegni a’u calonnau wirioneddol gwneud gwahaniaeth.
Efallai mai newid bach a chwa o awyr iach yw’r union beth sydd angen arnoch chi a’r plant.
Gallwch chi wneud hynna gyda’r sesiwn hwyliog, hudolus hon.
Rydych chi yn y lle iawn os ydych chi’n chwilio am ffordd o gael eich plant i fod yn wen o glust i glust gyda egni positif yn llenwi’r ystafell.
Mi fydd yn hwyl, yn bachu diddordeb, yn rhithiol a rhyngweithiol.




“Mae Kariad wedi gwneud imi wenu a chredu ynddaf fi’n hun.”
Disgybl Ysgol y Gorlan
“Hud a lledrith a lles: Mae ymchwil wedi dangos bod ymwneud â’r celfyddydau perfformio yn hybu lles. Datblygwyd y syniad yn y prosiect yma drwy nodi’r manteision corfforol a seicolegol sy’n gysylltiedig â dysgu triciau hud. Mae’r gwaith yn archwilio cyfres o fanteision, gan gynnwys hunan-barch uwch, mwy o reolaeth echddygol a gwell sgiliau cymdeithasol. Estynnodd ail ddarn o waith y syniad hwn i addysg, gan adolygu gwaith ar sut y gellir defnyddio hud i hybu meddwl beirniadol, creadigrwydd, amheuaeth, a dealltwriaeth wyddonol a mathemategol.”

ARLWY KARIAD

Dyna pam fod cwmni Kariad fel chwa o awyr iach.
Mi rydach chi’n y lle iawn os ydych chi isho gweld eich plant yn mwynhau teimlo’n gynwysedig ac yn gwenu’n llydan, braf.
Profiad llawn hwyl sydd wastad yn blaenoriaethu iechyd meddwl a lles y plant.
OED MEITHRIN
Sioe hud ryngweithiol 40 munud. Defnyddir hud a lledrith a phyped doniol tu hwnt i ddatblygu sgiliau iaith, cyfrif, lliwiau a phwysigrwydd caredigrwydd.

6-8 OED : Hud a Hunan Hyder

11-12 OED

SIOE NADOLIG
Sioe rithiol, rhyngweithiol 40 munud i blant fyny i 8oed. Caiff y plant gyfle arbennig i baratoi parti diolch syrpreis i Siôn Corn a phrofi’r boddhad o roi i eraill.
Argaeledd cyfyngedig.

CIPOLWG


CYNULLEIDFA HAPUS

TRAWSDORIAD EANG O ADDYSG

Mae Kariad yn mynd gam ymhellach na’r sesiwn.
Mae pawb yn gwybod hyn, a dyna’r rheswm am sesiynau Kariad. Sesiwn sy’n cyfuno dysgu, iachau a chael llond y lle o hwyl.
Ond efallai daw cwestiwn bach i’ch meddwl. Beth sy’n digwydd nesaf?
Perfformiwr sy’n mynd y tu hwnt i’r perfformiad…
Mae’r athrawon yn ddiolchgar i Karen am y syniadau ychwanegol sydd wedi eu paratoi i’r athrawon ddefnyddio ar ôl y sesiwn..


CEFNDIR!


RHAI FFEITHIAU DIDDOROL

www.re-live.org.uk



Datblygodd Dorothy Heathcote agwedd arloesol a grymusol at ddrama ac addysg. Taniodd ddychymyg plant ac a ysbrydolodd waith athrawon ac arbennigwyr ar draws y byd.Defnyddiodd ddrama fel arf i hyrwyddo dysgu cyfannol mewn ysgolion.

Cyfarwyddo a chyd ysgrifennu sioe theatr mewn addysg i gwmni Spectacle.
CEFNDIR!


Ymgynghorwyr hud – Mario the Maker Magician a Katie.
Mae Mario wedi teithio efo David Blaine.
Hyfforddiant – Coleg Cerdd a Drama Cymru
SUT MAE SESIWN ZOOM YN CYSYLLTU EFO’R PLANT?


CAMAU HAWDD

ARCHEBU’R HUD

Dewisiwch Amser
Polisi Canslo

.
YSBRYDOLI’R GENHEDLAETH HŶN
Gweithdy hud unigryw wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer y genhedlaeth hŷn.
Profiad sy’n llawn hwyl ac yn hwb i’r enaid.
Hud sy’n ystwytho’r cymalau. Hud sy’n rhoi gobaith.
Kariad yn cyflwyno sesiwn greadigol llawn hud a lledrith. Nid yn unig hynny, bydd Kariad hefyd yn dysgu tric neu ddau iddynt, gan roi ymdeimlad o falchder i’r genhedlaeth hŷn.
Sioe hud. Gweithdy hud. Cyfuniad o’r ddau.
Dewisiwch chi!
Rhannu llawenydd ac hapusrwydd.
YSBRYDOLI’R GENHEDLAETH HŶN
Gweithdy hud unigryw wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer y genhedlaeth hŷn.
Profiad sy’n llawn hwyl ac yn hwb i’r enaid.
Hud sy’n ystwytho’r cymalau. Hud sy’n rhoi gobaith.
Kariad yn cyflwyno sesiwn greadigol llawn hud a lledrith. Nid yn unig hynny, bydd Kariad hefyd yn dysgu tric neu ddau iddynt, gan roi ymdeimlad o falchder i’r genhedlaeth hŷn.
Sioe hud. Gweithdy hud. Cyfuniad o’r ddau.
Dewisiwch chi!
Rhannu llawenydd ac hapusrwydd.

















































